Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Ionawr 2024
Amser:
11.52 -
12.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13842
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Peredur Owen Griffiths AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
David Moran, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Comisiwn Etholiadol Dame Elan Closs Stephens CBE, Comisiwn Etholiadol Rhydian Thomas, Comisiwn Etholiadol Rob Vincent, Comisiwn Etholiadol |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gyflwyno eu hamcangyfrif atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24.
2.2 Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol yn fanwl ynghylch eu hamcangyfrif atodol ar gyfer 2023-24.
2.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar yr amcangyfrif fel rhan o'r ymgynghoriad sydd ei angen o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
2.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Etholiadol.
3.1 Cafodd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) ei gytuno.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Etholiadol.